#

Deiseb: P-05-881 Trwsio ein system gynllunio
Y Pwyllgor Deisebau | 11 Mehefin 2019
 Petitions Committee | 11 June 2019
 

 

 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd:

Rhif y ddeiseb: P-05-881

Teitl y ddeiseb: Trwsio ein system gynllunio

Testun y ddeiseb:

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i drwsio ein system gynllunio; mae angen i ddatblygiadau newydd fod yn gynaliadwy.

Mae paragraff 4.2.15 o ddogfen Polisi Cynllunio Cymru yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. I allu ystyried bod tir ar gael yng ngwir ystyr y term, mae’n rhaid i’r safle dan sylw fod yn safle sydd wedi’i gynnwys mewn Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

Mae’r cyflenwad pum mlynedd o dai yn rhoi gormod o bwysau ar awdurdodau lleol, sy’n golygu bod datblygiadau anaddas yn cael eu hadeiladu. Mae’r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn ddiffygiol: nid yw’n ystyried tai gwag na nifer yr ail gartrefi yn yr ardal. O ganlyniad i’r prinder tir, mae cynghorau’n teimlo bod angen rhoi caniatâd cynllunio hyd yn oed os ydynt yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â’r isadeiledd. Os yw cynghorau’n gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn gwyrdroi eu penderfyniadau yn ystod y broses apêl.

Mae datblygwyr yn ymwybodol o’r bylchau yn y system, ac maent yn gallu manteisio ar fregusrwydd cymunedau drwy ymgymryd â datblygiadau hapfasnachol mawr y tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol. Gan fod y datblygiadau hyn y tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol, nid yw cynaliadwyedd yr ardal o ran llesiant yr economi, iechyd, trafnidiaeth a’r amgylchedd yn destun gwaith craffu manwl. Hyd yn oed os yw trigolion yn tynnu sylw at astudiaethau/ystadegau lleol a chenedlaethol yn ymwneud â’r ardal dan sylw, nid yw eu lleisiau’n cael eu clywed mewn apeliadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddiffinio’r hyn a olygir gan dystiolaeth ‘gadarn’.

Cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn atal datblygiadau anghynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau dyfodol rhesymol. Mae cymunedau’n teimlo nad yw polisi nac arfer yn adlewyrchu hyn.

 

Y cefndir

Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru wedi’i nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru, a chyhoeddwyd y rhifyn diweddaraf o hwn, Rhifyn 10, ym mis Rhagfyr 2018. Y prif sbardun ar gyfer adolygu Polisi Cynllunio Cymru oedd i’w wneud yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae ‘creu lle’ yn nodwedd newydd ganolog ohono. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn disgrifio creu lle fel:

Ffordd holistig o fynd ati i gynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd yw “creu lle”, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau positif. Mae’n tynnu ar botensial ardal i greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl yn eu hystyr ehangaf.

Mae “creu lle” yn ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a’r berthynas rhwng safle’r datblygiad a’i gyffiniau, hynny yn achos datblygiadau mawr sy’n creu lleoedd newydd yn ogystal â datblygiadau bach sy’n cael eu creu mewn lle ehangach.

Ni ddylai “creu lle” ychwanegu at gostau datblygiad ond rhaid wrth feddwl clyfar, amlddimensiwn ac arloesol a’i ystyried cyn cynhared yn y broses â phosib. Mae “creu lle” yn ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at y datblygiad gan arwain at fuddiannau sy’n fwy na’r ffisegol a chryfhau penderfyniadau cynllunio.

Mae llawer o Nodiadau Cyngor Technegol sy’n cefnogi Polisi Cynllunio Cymru, ac mae’r rhain yn rhoi arweiniad manylach ar agweddau penodol ar y polisi cynllunio. Mae’r ddeiseb hon yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1: Cyd-astudiaethau argaeledd tir ar gyfer tai.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi, fel rhan o’r broses o gynllunio datblygiad, bod angen i awdurdodau cynllunio ddeall eu marchnadoedd tai lleol a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ofynion o ran tai yn eu hardal dros gyfnod y cynllun (paragraff 4.2.3), a:

4.2.6 Bydd yr Amcanestyniadau Aelwydydd lefel awdurdod lleol diweddaraf i Gymru gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (AFDLl) diweddaraf, a’r cynllun Llesiant ar gyfer ardal y cynllun, yn rhan sylfaenol o’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer y cynlluniau datblygu. Dylid ystyried y rhain ynghyd â thystiolaeth allweddol arall mewn perthynas â materion fel beth mae’r cynllun yn ceisio ei gyflawni, cysylltiadau rhwng tai a swyddi, yr angen am dai fforddiadwy, ystyriaethau’r Gymraeg, ac ymarferoldeb y cynllun er mwyn nodi strategaeth briodol ar gyfer darparu tai yn ardal y cynllun. Rhaid rhoi ystyriaeth briodol hefyd i’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ehangach mewn cynllun datblygu er mwyn sicrhau y caiff lleoedd cynaliadwy a chymunedau cydlynus eu creu.

Hefyd

4.2.15Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael mewn gwirionedd, neu y bydd digon ar gael yn y dyfodol, i ddarparu cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai, wedi ei farnu yn ôl yr amcanion cyffredinol, sef graddfa a lleoliad y datblygu y gofynnir amdano yn y cynllun datblygu. Mae hyn yn golygu bod rhaid i safleoedd fod yn rhydd, neu’n hawdd i’w rhyddhau, oddi wrth gyfyngiadau ar gynllunio, cyfyngiadau ffisegol a chyfyngiadau perchenogaeth, a’i bod yn ymarferol yn economaidd eu datblygu er mwyn cefnogi creu cymunedau cynaliadwy. Er mwyn ystyried tir fel tir sydd ar gael yn wirioneddol, rhaid iddo fod yn safle sydd wedi’i nodi mewn Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai31 neu, nes bod Cydastudiaeth yn ofynnol i lywio’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) cyntaf, yn y trywydd tai y cytunwyd arno fel rhan o gynllun datblygu mabwysiedig. Mae’r trywydd tai yn dangos sut y bydd yr awdurdod cynllunio yn cadw cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai dros gyfnod y cynllun. [Pwyslais Ymchwil y Senedd]

Mae TAN 1 yn nodi:

6.2 Dylai ffigur y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai hefyd gael ei drin fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai. Pan fo’r astudiaeth gyfredol yn dangos bod y cyflenwad tir yn llai na’r cyflenwad 5 mlynedd gofynnol, neu lle nad oedd modd i’r awdurdod cynllunio lleol gynnal astudiaeth (gweler 8.2 isod), dylid rhoi pwyslais sylweddol ar yr angen i gynyddu’r cyflenwad wrth ddelio â cheisiadau cynllunio os yw’r datblygiad fel arall yn cydymffurfio â’r cynllun datblygu a pholisïau cynllunio cenedlaethol.

Mae’r paragraff hwn, yn ei hanfod, yn nodi, os na all Awdurdod Cynllunio Lleol ddangos ei fod â chyflenwad tir am bum mlynedd o leiaf ar gyfer tai, yna dylid rhoi cryn bwys ar yr angen i gynyddu’r cyflenwad wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio. Byddai hyn yn ei gwneud yn anos i awdurdodau cynllunio lleol nad ydynt â chyflenwad tir am bum mlynedd wrthod ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu ar dir nad yw wedi’i glustnodi yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer tai, pe bai’r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio fel arall.

Fodd bynnag, mae paragraff 6.2 TAN 1 wedi’i ddatgymhwyso dros dro.

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am gynllunio, adolygiad o ddarpariaeth tai drwy’r system gynllunio.Dechreuodd yr adolygiad ym mis Gorffennaf 2018 gyda ‘galwad am dystiolaeth’.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar yr alwad am dystiolaeth a nododd:

Oherwydd y sefyllfa bresennol o safbwynt y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai ar draws Cymru, mae rhai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cael ceisiadau ‘tybiannol’ i adeiladu tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u dyrannu ar gyfer datblygiad mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae hyn yn creu ansicrwydd mewn cymunedau ac yn cael effaith andwyol ar y system ar sail cynlluniau. 

Felly, meddai:

… paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN 1): Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai [wedi’i ddatgymhwyso]. Mae hyn yn dileu’r paragraff sy’n cyfeirio at roi pwysoliad “sylweddol” i’r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai.

O ganlyniad i ddatgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1, mater i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau fydd penderfynu ar faint o ystyriaeth y dylid ei rhoi i'r angen i gynyddu’r cyflenwad o dir ar gyfer tai pan nad oes gan Awdurdod Cynllunio Lleol ddigon o dir ar gyfer tai.

Mae datgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1 yn cael effaith o 18 Gorffennaf 2018.

Ar 4 Hydref 2018, gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, pa mor hir fydd y datgymhwyso hwn yn parhau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y datgymhwysiad yn dal i gael ei ystyried fel un dros dro, ond ni roddwyd amserlen bendant. Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth Ymchwil y Senedd yn ddiweddarach fod ‘cyfnod o flwyddyn yn rhesymol’.

Mae’r llythyr at y Pwyllgor hwn gan Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol presennol, yn nodi bod y cam galw am dystiolaeth bellach wedi dod i ben ac mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r cam nesaf, gan gynnwys amserlen ddangosol ar gyfer cwblhau’r adolygiad. Mae’n datgan bod y cam nesaf yn debygol o gynnwys adolygu agweddau ar bolisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer tai a chanllawiau cysylltiedig, sydd yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu.

Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Y Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) yw’r dull i awdurdodau cynllunio lleol ei ddefnyddio i ddangos bod ganddynt gyflenwad tir pum mlynedd ar gyfer tai drwy ddarparu datganiad cytunedig o argaeledd tir at ddibenion cynllunio. Darperir canllawiau ar sut i baratoi Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn TAN 1.

Rhaid cynhyrchu Cyd-Astudiaeth yn flynyddol, gyda dyddiad sylfaenol o 1 Ebrill. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sefydlu Grwpiau Astudio sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol (yn ddelfrydol, adrannau perthnasol mewn awdurdodau lleol (e.e. tai), cynrychiolwyr adeiladwyr tai, perchnogion tir, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ymgymerwyr statudol, darparwyr seilwaith a phartïon priodol eraill) i sicrhau bod pob Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn seiliedig ar dystiolaeth realistig a phriodol.

Mae TAN 1 yn darparu rhagor o wybodaeth am y broses Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, gan gynnwys categoreiddio safleoedd, a’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad tir ar gyfer tai.

Fel y nodwyd yn llythyr y Gweinidog, mae’r Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn offeryn monitro ar gyfer cadw digon o dir y gellir ei ddefnyddio i ddarparu ar gyfer yr angen am dai. Felly nid yw’n ystyried materion fel cartrefi gwag neu ail gartrefi. Mae llythyr y Gweinidog yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried materion ehangach fel y rhain wrth asesu eu marchnad dai leol ac wrth ystyried y gofyn o ran tai, i’w nodi yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Apeliadau cynllunio

Mae llythyr y Gweinidog yn rhoi disgrifiad cryno o’r broses apeliadau cynllunio yng nghyd-destun y ddeiseb hon:

… bydd arolygwyr cynllunio'n penderfynu ynghylch unrhyw apeliadau ar sail y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Mae gan bobl sy'n â diddordeb mewn canlyniad cais cynllunio rôl bwysig i'w chwarae yn y broses gynllunio. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ac arolygwyr cynllunio ystyried unrhyw sylwadau perthnasol ar faterion cynllunio a fynegir gan breswylwyr lleol ac unrhyw drydydd parti arall. Fodd bynnag, nid yw gwrthwynebiad lleol ynddo ei hun yn rheswm dros wrthod caniatâd cynllunio.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1 dros dro, fel rhan o’i hadolygiad o ddarpariaeth tai drwy’r system gynllunio, fel y trafodwyd uchod.

Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon, y cyfeirir at gynnwys y llythyr uchod.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cwestiynau’r Cynulliad

Bu nifer o gwestiynau ysgrifenedig a chwestiynau llafar yn y Cynulliad ar fater TAN 1 a’r cyflenwad tir 5 mlynedd yn y blynyddoedd diwethaf. Ers datgymhwyso paragraff 6.2, cyflwynodd Andrew RT Davies AC Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad ar 3 Hydref 2018:

Gan nad yw 19 o'r 25 o awdurdodau cynllunio lleol yn gallu bodloni gofyniad Llywodraeth Cymru i gael cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai, pa mor hir fydd cael gwared ar baragraff 6.2 dros dro yn parhau? (WAQ77228)

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd ar 9 Hydref 2018:

A decision about whether or not to reinstate paragraph 6.2 of TAN 1 will be made as part of the full review of the delivery of housing through the planning system which I launched on 18 July with a ‘call for evidence’.

Ymchwiliad pwyllgor

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i eiddo gwag. Mae’r cylch gorchwyl yn cwmpasu:

§    i ba raddau y mae eiddo gwag yn effeithio ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru;

§    effaith eiddo gwag ar gymunedau yng Nghymru a’r heriau y mae awdurdodau yn eu hwynebu wrth geisio ymdrin â’r broblem hon;

§    i ba raddau y mae gan awdurdodau lleol y pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag eiddo gwag;

§    esiamplau o arfer gorau wrth droi eiddo gwag yn dai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni; ac

§    i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rhoi disgresiwn iddynt godi premiwm y dreth gyngor ar dai gwag, ac effeithiolrwydd y polisi hwn.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ymgynghoriad ac arolwg ar-lein i’w helpu i gasglu tystiolaeth. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Mai a daw’r arolwg i ben ar 19 Mehefin. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl flog ar fater cartrefi gwag.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.